Categories: uncategorized
Date: 17 January 2007 11:20:08
A glywsoch am yr actores
annwyd yn ysbyty'r Gors,
ei thad yn filwr yn Fali?
Neu'r film star dreuliodd hafau
yn hafod ei chyndeidiau?
A pheidied neb anghofio'r
campwr fu'n yfed coffi
mewn caffi ar y draffordd.
Yn yr ysbryd hwn, anogaf
henuriaid Rhydychen i godi plac:
Yma Ganwyd Y Prifardd Twm Morys.
Bydd cofeb yn Seion, gyfaill,
I gofio cyfraniad Ifor
At lendid y Diaspora.
A hyfryd fydd i Loegr gofleidio'i
Halltydfab ficeraidd hanner-hil.