Cerdd newydd / a new poem

Categories: uncategorized

Date: 20 February 2007 13:48:33

EIRA MAWR 1962 - 13eg Chwefror

Distawodd y byd heno dan sibrwd ysgafn
yr eira'n ymlwybro dros fryniau,
bwrdd-deistrefi a chwadranglau;
eira cyntaf y gaeaf yn gwrlid
o gylch Neuadd y Dref
a Neuadd Pantycelyn,
yn gohirio'r pyllau pel-droed,
yn oer fel rhyfel.

Distawodd pob sgwrs heno dan blu
gwahaniaeth dibendraw; dim byd
ond atsain dweud y drefn yn diferu
o dudalennau cyfnodolion y gororau brau.

Gwn, mi wn, fod rhywun ar fai,
a dôf yn ddof i ymyl y dorf
i ddal dy gôt wrth i ti daflu'r
garreg gyntaf - Ond beth
oedd y swn a glywais tra'n cerdded
heibio i Barc y Blawd? Rhywun yn fy siarsio
am adeiladu fy hun ar bethau
mor wamal ag eira, iaith a phridd?

THE GREAT WINTER OF 1962 - 13th February

The world is silent tonight
under the soft whisper of snow snaking
over hills, boroughs and quadrangles;
the first snow of winter wrapping
itself around town halls
and halls of residence,
postponing the football pools,
as cold as war.

All conversation ended beneath flakes
of unending difference; nothing
but the echo of anger dripping
from the newspapers of the fragile march.

Someone's got to take the blame,
so I'll come, tame, to the edge of the crowd
and hold your coat whilst you cast
the first stone. But what
was the sound I heard
whilst passing Parc y Blawd? Someone
admonishing me for building myself on things
as fickle as language, land and snow?