Dal Pwyll

Categories: uncategorized

Date: 05 January 2007 14:35:42

Roedd hi'n ddigon hawdd dod hyd i fall guy.
Gwyddwn fod ei falchder yn fwy na'i bwyll,
felly mater bychan oedd gosod
rhwyd deniadol wrth ei draed.

Problem fwya pendefigion ydi'r grêd
fod popeth o fewn cyrraedd.
(Nid gwyddoniaeth roced ‘mo hyn).
Gyrrais y bwch o flaen ei gi,
gwelodd ei siawns, a daeth i mi ar blât.

Mae pobol yn rhâd, wyddoch chi?
Mi wnant unrhyw beth am fedal,
foliant neu fwyd.
Cymerwch y cymeriad bychan hwn -
"Laddi di ddyn i achub dy barch?
Mi gadwa i drefn ar dy gantrefi
rhag i neb sylwi dy absenoldeb."
Heb funud o feddwl, aeth ati.
Fel dwyn da-da o fabi.
Bron yn rhy hawdd.

Gellir cyfiawnhau hyn mewn llawer ffordd -
roedd y gelyn yn bygwth;
yn casglu arfau mawr;
yn drafferth;
rhaid cadw trefn ar bethau.
Coeliwch fi, mae pethau'n well erbyn hyn -
dyna'r unig dystiolaeth o werth.

Beth wnaeth Bwyll yn batsi?
Clôd, am wn i.

Caiff ddigon o hynny,
a llu taeog,
yn bendefig byd y meirw.